Ysgogwyr Newid

Mae camau bach yn arwain at newidiadau mawr

Oes materion yn bwysig i chi, yn effeithio arnoch chi, ar eich cymuned neu ar eich teulu? Ydych chi eisiau gwneud newid go iawn?

Rydyn ni’n byw mewn cyfnod o heriau i Gymru, y DU a’r byd – ond, hefyd, cyfnod o bosibiliadau a chyfleoedd. Sut gall dinasyddion ifanc cyffredin Cymru wneud gwahaniaeth i’r heriau hyn? Sut gallan nhw fod yn ddinasyddion gweithgar? Sut gallan nhw fod yn Bobl sy’n Gwneud Newid? Mae’r wefan hon ar gyfer y rheini sydd eisiau gwneud newid yng Nghymru, yn y DU neu’n fyd-eang. Os ydych chi eisiau i rywbeth fod yn wahanol, gallwch chi wneud newid drwy ymgysylltu â Senedd Cymru, Senedd y DU, neu gymryd camau eraill i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.

Byddwn ni’n dangos i chi sut mae gwneud gwahaniaeth drwy eich dysgu sut mae gwneud newid gwleidyddol a chymdeithasol. Dysgwch am ddatganoli a’r cysylltiadau rhwng y DU a Chymru. Dysgwch pa sefydliadau sy'n gyfrifol am y materion sy'n bwysig i chi.

Bod yn Rhywun sy’n Gwneud Newid

Addysg

Mae addysg yn un o gonglfeini profiadau plant a phobl ifanc. Dylai pobl ifanc deimlo eu bod yn cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen i wneud penderfyniadau ar sail pa ddewisiadau addysg a chyllid sydd ar gael iddyn nhw. Gall pobl ifanc hefyd gyfrannu at lunio dyfodol addysg drwy rannu adborth am eu profiadau i lywio dyfodol addysg yn y DU.

Cydraddoldeb Hiliol

Mae deall hil a hiliaeth ac ymgyrchu dros gydraddoldeb hiliol yn meithrin cymdeithas gyfiawn. Gall pobl ifanc frwydro yn erbyn anghydraddoldebau systemig a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal, gan ddysgu sut i herio gwahaniaethu a gweithio tuag at chwalu rhwystrau strwythurol sy’n effeithio ar fywydau pobl o liw.

Cydraddoldeb LHDTCRh+

Mae cefnogi hawliau pobl LHDTCRh+ yn sicrhau cynhwysiant a derbyniad. Gall pobl ifanc eirioli dros gydraddoldeb, herio gwahaniaethu, a chreu amgylcheddau lle gall pawb fyw’n ddilys heb ofn, waeth beth fo’u cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth o ran rhywedd.

Cydraddoldeb Rhywiol

Mae ymgyrchu dros gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn grymuso pobl ifanc i greu byd teg a chyfartal. Drwy herio stereoteipiau ac eirioli dros gydraddoldeb rhwng y rhywiau, gallan nhw gyfrannu at gymdeithas lle mae pawb yn cael cyfle cyfartal.

Cyfiawnder Cymdeithasol

Mae bod yn ymwybodol o faterion cyfiawnder cymdeithasol fel dosbarthu cyfoeth, breintiau a chyfleoedd yn deg yn rhan allweddol o greu cymdeithas deg a thrugarog. Drwy ymgyrchu dros bolisïau economaidd teg a chefnogi rhaglenni lliniaru tlodi, gall pobl ifanc gyfrannu at greu cymdeithas decach.

Cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth

Mae cyfranogiad gwleidyddol ystyrlon yn grymuso pobl ifanc i lunio dyfodol eu cenedl a deall pa benderfyniadau gwleidyddol sy’n cael eu gwneud ar eu rhan. Drwy gymryd rhan, gallan nhw sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, gan gyfrannu at gymdeithas ddemocrataidd ac atebol.

Economi a Chyllid

Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar lawer o bobl ifanc. Mae dysgu sut i reoli eu harian a deall yr economi yn galluogi unigolion ifanc i lunio eu dyfodol ariannol. Drwy gymryd rhan mewn trafodaethau economaidd, gallan nhw gyfrannu at bolisïau cynhwysol, twf cynaliadwy, a lleihau anghydraddoldebau.

Eithafiaeth

Eithafiaeth yw ymlyniad ffyrnig at ideolegau neu gredoau, a nodweddir yn aml gan safiad digyfaddawd a radical. Mae'n dod i'r amlwg mewn meysydd amrywiol, gan gynnwys meysydd gwleidyddol, crefyddol neu gymdeithasol, lle mae unigolion neu grwpiau'n arddel safbwyntiau eithafol, yn aml ar draul goddefgarwch, trafodaeth resymegol, a chydfodolaeth heddychlon.

Iechyd y Corff a’r Meddwl

Mae pobl ifanc yn wynebu heriau iechyd a phroblemau o ran cael gafael ar ofal iechyd. Mae iselder, gorbryder ac anhwylderau iechyd meddwl eraill ymhlith y prif bethau sy’n achosi salwch ac anableddau i bobl ifanc. Gall pobl ifanc ymgyrchu dros faterion iechyd ac iechyd meddwl er mwyn i bawb gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.

Materion Byd-eang

Mae materion byd-eang yn golygu materion sy’n peri pryder i’r cyhoedd ledled y byd. Gallai’r rhain gynnwys materion cymdeithasol, materion amgylcheddol a materion economaidd. Mewn sawl ffordd, mae materion byd-eang yn cyd-fynd â’i gilydd, a gall dysgu mwy amdanyn nhw a sut i lunio’r dyfodol deimlo’n rymusol iawn.

Mudo

Drwy ganolbwyntio ar ffeithiau mudo, gall pobl ifanc ddeall cymhlethdod cynnig amddiffyniad a’r hyn y gallan nhw ei wneud i wella bywydau ffoaduriaid a phobl eraill.

Yr Hinsawdd a’r Amgylchedd

Mae ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith pobl ifanc yn hanfodol er mwyn gwarchod y Ddaear. Drwy eirioli dros arferion a pholisïau cynaliadwy, gall pobl ifanc gyfrannu at blaned iachach ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Drwy weithredu, gall pobl ifanc gyfrannu at atebion cynaliadwy, eirioli dros ynni adnewyddadwy, a gwthio am bolisïau sy’n lliniaru dirywiad amgylcheddol.

Chwilio am ysbrydoliaeth Bod yn Rhywun sy’n Gwneud Newid

Camau bach i arwain at newidiadau mawr. Gallwch chi ysbrydoli pobl eraill i weithredu a chodi ymwybyddiaeth o faterion pwysig.

Angel Ezeadum

Angel Ezeadum

Aelod o’r Senedd Ieuenctid dros Race Council Cymru

Yr Aelod cyntaf o Senedd Ieuenctid Cymru dros Race Council Cymru. Mae Angel wedi gwneud cyfraniadau effeithiol yn galw ar i hanesion pobl ddu a phobl o liw fod yn rhan o gwricwlwm ysgolion Cymru.

Poppy Stowell-Evans

Poppy Stowell-Evans

Llysgennad Hinsawdd Ieuenctid Cymru

Mae Poppy yn eiriolwr cryf dros gydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol. Mae hi’n ymgyrchydd angerddol dros y newid yn yr hinsawdd ac mae hi’n ystyried ei hun yn rhyngwladolwr, gan gredu y dylai gwledydd weithio gyda’i gilydd.

Greta Thunberg

Greta Thunberg

Grym dros ymgyrchu amgylched

Mae protestiadau heddychlon Greta wedi ysbrydoli mudiad ieuenctid byd-eang, wedi perswadio gwleidyddion i ymgysylltu â materion newid yn yr hinsawdd, ac wedi gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd. Mae ei heffaith wedi cael ei galw’n ‘Effaith Greta.’