Mae’r Deyrnas Unedig yn cynnwys pedair gwlad, sef Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, pob un â’i hanes a’i diwylliant ei hun. Mae Senedd y DU yn deddfu mewn meysydd sy’n cael eu hystyried yn hanfodol i’r undeb, fel amddiffyn, yr economi a chysylltiadau rhyngwladol. Yn hanesyddol, San Steffan oedd lleoliad grym canolog y Deyrnas Unedig, drwy Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.
Tŷ’r Cyffredin yw’r rhan etholedig o Senedd y Deyrnas Unedig. Gweinidogion yw’r aelodau sydd yn y llywodraeth. Gwrthbleidiau ydy’r enw ar bMae pleidiau gwleidyddol sydd ddim yn rhan o’r llywodraeth yn cael eu galw’n wrthbleidiau. Mae’r Llefarydd yn Aelod Seneddol sydd wedi cael ei ethol gan Aelodau Seneddol eraill i fod yn Gadeirydd yn ystod dadleuon.
hcenquiries@parliament.uk
0800 112 4272 (Freephone) or 020 7219 4272
House of Commons, London, SW1A 0AA
Mae Tŷ’r Arglwyddi yn rhoi ail farn i Dŷ’r Cyffredin a’r Llywodraeth. Prif swyddogaeth Tŷ’r Arglwyddi yw dadlau, diwygio, a deddfu, gwirio a herio’r Llywodraeth ac ymchwilio i bolisi cyhoeddus.
hlinfo@parliament.uk
0800 223 0855 (Freephone) or 020 7219 3107
House of Lords, London, SW1A 0PW
Ar ôl 1997, fe wnaeth datganoli greu canolfannau pŵer newydd yng Nghaerdydd, Caeredin a Belfast, drwy drosglwyddo pwerau gwleidyddol a chyfreithiol o Senedd y DU i Senedd Cymru, yn ogystal â Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Er mwyn deall sut i wneud newid, mae’n bwysig gwybod sut mae datganoli’n gweithio, beth yw’r cysylltiadau rhwng y DU a Chymru, a pha sefydliad sy’n gyfrifol am ba faterion gwleidyddol.
Mae’n bwysig nodi bod rhai materion yn rhai byd-eang yn hytrach nag yn rhai lleol. Maen nhw’n effeithio ar bobl mewn llawer o wledydd ac mae angen atebion a gweithredu arnynt ar draws gwledydd. Er enghraifft, mae’r Cenhedloedd Unedig yn disgrifio ei Nodau Datblygu Cynaliadwy fel ceisio mynd i’r afael â’r heriau byd-eang rydyn ni’n eu hwynebu drwy gynnig glasbrint i sicrhau dyfodol gwell a mwy cynaliadwy i bawb. Er enghraifft, mae tlodi a newyn yn effeithio ar bobl ym mhob man ac mae eu datrys yn gofyn am weithredu ar draws ffiniau cenedlaethol, gan gynnwys pedair gwlad y DU.
House of Commons and House of Lords logos © UK Parliament. Senedd logo © Senedd Cymru | Welsh Parliament.
Mae Senedd Cymru yn deddfu dros Gymru ac yn ei chylch, ac mae’n dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Mae Llywodraeth Cymru yn llunio polisïau ac yn cynnig cyfreithiau ynghylch materion datganoledig ac yn cynnig y gyllideb flynyddol ar gyfer pob maes y mae’n gyfrifol amdano. Mae pob pŵer wedi’i ddatganoli i Gymru, ar wahân i’r rheini sydd wedi’u cadw’n benodol i Senedd y DU. Dyma’r prif feysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru:
Mae gan lywodraeth a Senedd y DU rolau tebyg i’r Senedd, ond i’r Deyrnas Unedig yn gyffredinol ac eithrio ar faterion datganoledig. Ni all y Senedd newid cyfreithiau ar faterion o dan reolaeth Senedd y DU. Fodd bynnag, gall Senedd y DU greu deddfau sy’n ymwneud â Chymru, er nad yw fod i wneud hynny heb ganiatâd y Senedd.
Mae gan lawer o rannau o’r DU ddwy haen o lywodraeth leol, sef cynghorau sir a chynghorau dosbarth, bwrdeistref neu ddinas. Mae cynghorau sir yn gyfrifol am wasanaethau mewn sir gyfan gan gynnwys addysg, cynllunio a rheoli gwastraff. Mae cynghorau dosbarth, bwrdeistref a dinas yn gwasanaethu ardal lai o faint ac fel arfer ac maen nhw’n gyfrifol am wasanaethau fel tai, ailgylchu a chasglu sbwriel.