Yr Hinsawdd a’r Amgylchedd

Mae ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith pobl ifanc yn hanfodol er mwyn gwarchod y Ddaear. Drwy eirioli dros arferion a pholisïau cynaliadwy, gall pobl ifanc gyfrannu at blaned iachach ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Drwy weithredu, gall pobl ifanc gyfrannu at atebion cynaliadwy, eirioli dros ynni adnewyddadwy, a gwthio am bolisïau sy’n lliniaru dirywiad amgylcheddol.


Pwy sy’n gyfrifol


Beth maen nhw’n ei wneud?

Mae Cymru wedi ymrwymo’n gyfreithiol (drwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016) i leihau allyriadau carbon i sero net erbyn 2050 gyda thargedau 10 mlynedd a chyllidebau carbon 5 mlynedd yn nodi llwybr at sero net a chynllun ar gyfer Cymru Sero Net. Cytunwyd ar fframwaith bioamrywiaeth byd-eang COP15 ym mis Rhagfyr 2022, gyda tharged cyffredinol i ddiogelu 30% o ardaloedd daearol, dyfroedd mewndirol, ac ardaloedd arfordirol a morol erbyn 2030. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyrraedd y targed hwn drwy dargedau bioamrywiaeth domestig statudol. Mae wedi ymrwymo i ddiweddaru polisi’r Newid yn yr Hinsawdd, a chodi proffil yr amgylchedd, ynni, cynllunio a thrafnidiaeth yng Nghymru, yn ogystal â sut mae’r rhain yn cyd-fynd â nodau rhyngwladol. Mae’r Senedd wedi sefydlu’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am hyn.


Beth allwch chi ei wneud?

Mae cynghorau lleol, Senedd Cymru a Senedd y DU i gyd yn gyfrifol am faterion sy’n ymwneud â’r amgylchedd mewn gwahanol ffyrdd. Os ydych chi’n poeni am fater lleol, e.e. afon sy’n gorlifo, neu barcdir lle mae tipio anghyfreithlon yn digwydd, cysylltwch â’r cyngor lleol yn gyntaf. Os ydych chi eisiau ymgyrchu ar fater datganoledig, fel llygredd neu golli ecosystemau, cysylltwch ag un o’r Aelodau lleol o’r Senedd. I lobïo dros fater amgylcheddol ehangach sy’n cynnwys gwledydd eraill yn y DU, canolbwyntiwch ar Senedd y DU. Mae modd rhoi gwybod am ddigwyddiadau amgylcheddol drwy Cyfoeth Naturiol Cymru.


Dolenni / Adnoddau

Beth yw'r broblem?


Angel Ezeadum

Aelod o’r Senedd Ieuenctid dros Race Council Cymru

Yr Aelod cyntaf o Senedd Ieuenctid Cymru dros Race Council Cymru. Mae Angel wedi gwneud cyfraniadau effeithiol yn galw ar i hanesion pobl ddu a phobl o liw fod yn rhan o gwricwlwm ysgolion Cymru.

Angel Ezeadum

Marcus Rashford

Pêl-droediwr ac ymgyrchydd

Yr effaith fwyaf a gafodd Marcus oedd dylanwadu ar Lywodraeth y DU i ymestyn prydau ysgol am ddim i blant. Fe wnaeth hefyd godi proffil y mater yn y cyfryngau ac ymysg y cyhoedd gan arwain at sgwrs genedlaethol am dlodi bwyd.

Marcus Rashford

Poppy Stowell-Evans

Llysgennad Hinsawdd Ieuenctid Cymru

Mae Poppy yn eiriolwr cryf dros gydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol. Mae hi’n ymgyrchydd angerddol dros y newid yn yr hinsawdd ac mae hi’n ystyried ei hun yn rhyngwladolwr, gan gredu y dylai gwledydd weithio gyda’i gilydd.

Poppy Stowell-Evans

Greta Thunberg

Person y flwyddyn, Cylchgrawn Time Hydref 2019

Mae protestiadau heddychlon Greta wedi ysbrydoli mudiad ieuenctid byd-eang, wedi perswadio gwleidyddion i ymgysylltu â materion newid yn yr hinsawdd, ac wedi gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd. Mae ei heffaith wedi cael ei galw’n ‘Effaith Greta.’

Greta Thunberg