Gwybodaeth am Bobl sy’n Gwneud Newid

Rydyn ni’n byw mewn cyfnod o heriau yng Nghymru, yn y DU ac yn fyd-eang. Ond mae hefyd yn gyfnod o bosibiliadau a chyfleoedd. Sut gall dinasyddion ifanc cyffredin Cymru wneud gwahaniaeth gwleidyddol neu gymdeithasol? Sut y gallwch chi ddefnyddio sefydliadau gwleidyddol i greu newid? Sut gallwch chi fod yn ddinesydd gweithgar? Sut gallwch chi fod yn Rhywun sy’n Gwneud Newid?


I bobl ifanc sy’n byw yng Nghymru

Mae’r wefan hon ar gyfer pobl ifanc sy’n byw yng Nghymru sydd eisiau gwneud newid yng Nghymru, yn y DU neu’n fyd-eang. Os ydych chi eisiau i rywbeth fod yn wahanol, gallwch chi wneud newid drwy ymgysylltu â Senedd Cymru, Senedd y DU, neu gymryd camau eraill i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed. Mae’n bwysig gwybod pa sefydliad sydd â’r pŵer i wneud y newid rydych chi’n ymgyrchu drosto, felly byddwn ni’n rhoi gwybod i chi am ddatganoli a’r cysylltiadau rhwng y DU a Chymru.

Prosiect Pobl sy’n Gwneud Newid

Dechreuodd Pobl sy’n Gwneud Newid fel prosiect ymchwil academaidd a oedd yn edrych ar ffyrdd o wella mynediad oedolion ifanc at newid gwleidyddol a chymdeithasol. Dan arweiniad Dr. Donna Smith a Dr. Jenny Hewitt o'r Brifysgol Agored a thimau prosiect yn y Brifysgol Agored yng Nghymru, ac yn cael ei ariannu gan y rhaglen Heriau Cymdeithasol Agored.

Mae’r prosiect wedi gweithio gydag amrywiaeth o leisiau ifanc o Gymru i ddeall beth sydd ei angen arnyn nhw i wneud newid yng Nghymru a’r DU yn ehangach. Hoffen ni ddiolch i Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange a Gwasanaeth Ieuenctid Sir Benfro am eu holl amser, ymdrech a mewnbwn ar y gwaith hwn. Mae gwefan Pobl sy’n Gwneud Newid yn deillio o’r lleisiau hyn, ac mae’n dathlu rôl dinasyddiaeth weithredol: y syniad y gall rhywun fod yn ddinesydd gwleidyddol gweithredol ac y gall wneud newid. Hoffen ni ddiolch i Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange a Gwasanaeth Ieuenctid Sir Benfro am eu hamser, eu dealltwriaeth a'u gwaith ar y prosiect hwn.

Rhagor o wybodaeth