Mudo

Drwy ganolbwyntio ar ffeithiau mudo, gall pobl ifanc ddeall cymhlethdod cynnig amddiffyniad a’r hyn y gallan nhw ei wneud i wella bywydau ffoaduriaid a phobl eraill.


Pwy sy’n gyfrifol


Beth maen nhw’n ei wneud?

Er bod mudo’n hanfodol i’n heconomi a bod y bobl sy’n dod i’r DU yn cyfrannu mwy nag y maen nhw’n ei gostio, mae wedi dod yn fater gwleidyddol iawn. Mae Llywodraeth y DU wedi cynnig diwygiadau i’r system lloches gyda’r nod o rwystro mudo anghyfreithlon a symleiddio’r broses lloches. Fodd bynnag, mae’r amseroedd aros ar gyfer prosesu ceisiadau am loches yn dal i fod yn uwch nag erioed.


Beth allwch chi ei wneud?

Rhowch eich amser neu’ch arian i sefydliadau sy’n gweithio i gefnogi ffoaduriaid a phobl sydd wedi’u dadleoli. Mae llawer o sefydliadau dyngarol yn darparu gwasanaethau hanfodol fel addysg, bwyd, a gofal meddygol i ffoaduriaid mewn ardaloedd sydd wedi’u heffeithio gan argyfwng a gwledydd adsefydlu. Ystyriwch wirfoddoli gyda grwpiau cefnogi ffoaduriaid lleol neu godi arian ar gyfer elusennau ffoaduriaid. Ewch ati i eirioli dros bolisïau a chamau gweithredu sy’n hyrwyddo hawliau ac amddiffyn ffoaduriaid ac sy’n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol dadleoli. Ysgrifennwch at eich cynrychiolwyr etholedig, cymerwch ran mewn ymgyrchoedd eirioli, a chefnogwch sefydliadau sy’n eiriol dros hawliau ffoaduriaid a chymorth dyngarol. Meithrin amgylchedd croesawgar a chynhwysol i ffoaduriaid a mudwyr yn eich cymuned. Mynd i’r afael â gwahaniaethu, senoffobia ac anoddefgarwch drwy hyrwyddo dealltwriaeth, empathi a pharch at amrywiaeth ddiwylliannol. Cefnogi mentrau sy’n hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol, cyfnewid diwylliannol, ac integreiddio economaidd i ffoaduriaid a chymunedau sy’n lletya.


Dolenni / Adnoddau

Beth yw'r broblem?


Angel Ezeadum

Aelod o’r Senedd Ieuenctid dros Race Council Cymru

Yr Aelod cyntaf o Senedd Ieuenctid Cymru dros Race Council Cymru. Mae Angel wedi gwneud cyfraniadau effeithiol yn galw ar i hanesion pobl ddu a phobl o liw fod yn rhan o gwricwlwm ysgolion Cymru.

Angel Ezeadum

Marcus Rashford

Pêl-droediwr ac ymgyrchydd

Yr effaith fwyaf a gafodd Marcus oedd dylanwadu ar Lywodraeth y DU i ymestyn prydau ysgol am ddim i blant. Fe wnaeth hefyd godi proffil y mater yn y cyfryngau ac ymysg y cyhoedd gan arwain at sgwrs genedlaethol am dlodi bwyd.

Marcus Rashford

Poppy Stowell-Evans

Llysgennad Hinsawdd Ieuenctid Cymru

Mae Poppy yn eiriolwr cryf dros gydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol. Mae hi’n ymgyrchydd angerddol dros y newid yn yr hinsawdd ac mae hi’n ystyried ei hun yn rhyngwladolwr, gan gredu y dylai gwledydd weithio gyda’i gilydd.

Poppy Stowell-Evans

Greta Thunberg

Person y flwyddyn, Cylchgrawn Time Hydref 2019

Mae protestiadau heddychlon Greta wedi ysbrydoli mudiad ieuenctid byd-eang, wedi perswadio gwleidyddion i ymgysylltu â materion newid yn yr hinsawdd, ac wedi gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd. Mae ei heffaith wedi cael ei galw’n ‘Effaith Greta.’

Greta Thunberg