Addysg

Mae addysg yn un o gonglfeini profiadau plant a phobl ifanc. Dylai pobl ifanc deimlo eu bod yn cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen i wneud penderfyniadau ar sail pa ddewisiadau addysg a chyllid sydd ar gael iddyn nhw. Gall pobl ifanc hefyd gyfrannu at lunio dyfodol addysg drwy rannu adborth am eu profiadau i lywio dyfodol addysg yn y DU.


Pwy sy’n gyfrifol


Beth maen nhw’n ei wneud?

Mae addysg yn fater datganoledig yng Nghymru. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am addysg gynradd ac uwchradd. Mae'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, yn weithredol o fis Awst 2024, yn gyfrifol am yr holl addysg ac ymchwil ôl-16 yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn dylanwadu ar addysg yng Nghymru drwy ei gwaith o gydlynu gydag awdurdodau lleol. Er enghraifft, un ffocws allweddol yw cynyddu nifer y grwpiau blwyddyn ysgol sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda’r nod o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i 1 miliwn erbyn 2050.


Beth allwch chi ei wneud?

Mae addysg yn ganolog i wella bywydau pobl ifanc, ac mae'n bwysig eich bod chi’n gwybod pa opsiynau addysg a gyrfa gwahanol sydd ar gael i chi yn y dyfodol. Gallwch chi ddweud eich dweud am yr addysg rydych chi’n ei chael drwy gymryd rhan mewn cyfleoedd llais y myfyriwr fel cynghorau ysgol, a rhoi adborth i addysgwyr. Gallwch chi awgrymu ffyrdd y gallai addysg weithio’n well i chi drwy gysylltu â chynghorau lleol a’r Senedd. Os oes gennych chi bryderon, syniadau neu gwestiynau sy’n effeithio ar eich ysgol neu goleg, mae ganddyn nhw gyfrifoldeb i wrando ar eich adborth. Dysgwch pwy sy’n gyfrifol am gymryd rhan yn eich ysgol neu goleg, a pha sianeli mae eich sefydliad addysgol yn eu defnyddio i gael adborth gan bobl ifanc. Os ydych chi eisiau gwneud awgrymiadau neu herio penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan y Senedd, gallwch chi gysylltu â’r Comisiynydd Plant i gael rhagor o wybodaeth am sut mae gwneud newid, neu gysylltu â’ch Aelod o’r Senedd.


Dolenni / Adnoddau

Beth yw'r broblem?


Angel Ezeadum

Aelod o’r Senedd Ieuenctid dros Race Council Cymru

Yr Aelod cyntaf o Senedd Ieuenctid Cymru dros Race Council Cymru. Mae Angel wedi gwneud cyfraniadau effeithiol yn galw ar i hanesion pobl ddu a phobl o liw fod yn rhan o gwricwlwm ysgolion Cymru.

Angel Ezeadum

Marcus Rashford

Pêl-droediwr ac ymgyrchydd

Yr effaith fwyaf a gafodd Marcus oedd dylanwadu ar Lywodraeth y DU i ymestyn prydau ysgol am ddim i blant. Fe wnaeth hefyd godi proffil y mater yn y cyfryngau ac ymysg y cyhoedd gan arwain at sgwrs genedlaethol am dlodi bwyd.

Marcus Rashford

Poppy Stowell-Evans

Llysgennad Hinsawdd Ieuenctid Cymru

Mae Poppy yn eiriolwr cryf dros gydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol. Mae hi’n ymgyrchydd angerddol dros y newid yn yr hinsawdd ac mae hi’n ystyried ei hun yn rhyngwladolwr, gan gredu y dylai gwledydd weithio gyda’i gilydd.

Poppy Stowell-Evans

Greta Thunberg

Person y flwyddyn, Cylchgrawn Time Hydref 2019

Mae protestiadau heddychlon Greta wedi ysbrydoli mudiad ieuenctid byd-eang, wedi perswadio gwleidyddion i ymgysylltu â materion newid yn yr hinsawdd, ac wedi gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd. Mae ei heffaith wedi cael ei galw’n ‘Effaith Greta.’

Greta Thunberg