Cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth

Mae cyfranogiad gwleidyddol ystyrlon yn grymuso pobl ifanc i lunio dyfodol eu cenedl a deall pa benderfyniadau gwleidyddol sy’n cael eu gwneud ar eu rhan. Drwy gymryd rhan, gallan nhw sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, gan gyfrannu at gymdeithas ddemocrataidd ac atebol.


Pwy sy’n gyfrifol


Beth maen nhw’n ei wneud?

Yng Nghymru, gallwch chi gofrestru i bleidleisio o 14 oed, a gallwch chi bleidleisio o 16 oed yn y Senedd ac mewn etholiadau lleol yng Nghymru. Gallwch chi hefyd gymryd rhan mewn ymgyrchoedd ar lawr gwlad ac ymgyrchoedd byd-eang o unrhyw oed. Mae’r Senedd yn cytuno bod angen mwy o addysg ar bobl ifanc Cymru i gefnogi cyfranogiad gwleidyddol, ac mae wedi creu adnoddau a phrosiectau allgymorth i gefnogi ysgolion Cymru i ddarparu addysg wleidyddol.


Beth allwch chi ei wneud?

Gallwch chi gymryd rhan yn wleidyddol drwy ymgysylltu ag unrhyw un o’r materion allweddol sy’n cael sylw yn y wefan hon, neu ddefnyddio’r templedi gweithredu i ymgysylltu â materion o’ch dewis chi. Gallwch chi gofrestru i bleidleisio o 14 oed yng Nghymru, pleidleisio mewn etholiadau cyngor ac etholiadau cenedlaethol o 16 oed, ac addysgu eich hun drwy ymgysylltu ag amrywiaeth eang o adnoddau gwleidyddol.


Dolenni / Adnoddau

Beth yw'r broblem?


Angel Ezeadum

Aelod o’r Senedd Ieuenctid dros Race Council Cymru

Yr Aelod cyntaf o Senedd Ieuenctid Cymru dros Race Council Cymru. Mae Angel wedi gwneud cyfraniadau effeithiol yn galw ar i hanesion pobl ddu a phobl o liw fod yn rhan o gwricwlwm ysgolion Cymru.

Angel Ezeadum

Marcus Rashford

Pêl-droediwr ac ymgyrchydd

Yr effaith fwyaf a gafodd Marcus oedd dylanwadu ar Lywodraeth y DU i ymestyn prydau ysgol am ddim i blant. Fe wnaeth hefyd godi proffil y mater yn y cyfryngau ac ymysg y cyhoedd gan arwain at sgwrs genedlaethol am dlodi bwyd.

Marcus Rashford

Poppy Stowell-Evans

Llysgennad Hinsawdd Ieuenctid Cymru

Mae Poppy yn eiriolwr cryf dros gydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol. Mae hi’n ymgyrchydd angerddol dros y newid yn yr hinsawdd ac mae hi’n ystyried ei hun yn rhyngwladolwr, gan gredu y dylai gwledydd weithio gyda’i gilydd.

Poppy Stowell-Evans

Greta Thunberg

Person y flwyddyn, Cylchgrawn Time Hydref 2019

Mae protestiadau heddychlon Greta wedi ysbrydoli mudiad ieuenctid byd-eang, wedi perswadio gwleidyddion i ymgysylltu â materion newid yn yr hinsawdd, ac wedi gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd. Mae ei heffaith wedi cael ei galw’n ‘Effaith Greta.’

Greta Thunberg