Lobio

Mae lobïo’n rhan bwysig o wleidyddiaeth, sef yr ymgais gyfreithiol i ddylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau gwleidyddol, fel Aelodau Seneddol a gweinidogion y llywodraeth. Gall unigolion, grwpiau eirioli/grwpiau diddordeb arbennig, a lobïwyr proffesiynol ddylanwadu ar gynrychiolwyr etholedig drwy lobïo.


Mae’r arfer o lobïo er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau gwleidyddol yn cynnwys unigolion a sefydliadau sydd eisiau dylanwadu ar benderfyniadau a allai effeithio arnyn nhw, y rhai o’u cwmpas, a’u hamgylchedd, gan gysylltu â gwleidyddion a chyfleu eu barn ar benderfyniad gwleidyddol. Lobïo torfol yw pan fydd grŵp o bobl yn cysylltu â’u cynrychiolydd etholedig ac yn cytuno i gwrdd â nhw yn y Senedd i drafod mater.

Gall lobïo arwain at newid gwleidyddol

Gall gweithgareddau lobïo fod ar sawl ffurf, gan gynnwys cyfathrebu’n uniongyrchol â deddfwyr, cymryd rhan mewn ymgynghoriadau ac ymchwiliadau cyhoeddus, a darparu ymchwil ac arbenigedd i lywio’r gwaith o lunio polisïau. Un o'r prif ffyrdd y gall lobïo arwain at newid gwleidyddol yn y DU yw drwy roi gwybodaeth, arbenigedd a safbwyntiau amgen i lunwyr polisïau ar faterion cymhleth. Mae lobïwyr yn aml yn gweithio’n agos gyda’r rheini sy’n llunio polisi i’w haddysgu am effeithiau posib polisïau arfaethedig, tynnu sylw at fuddiannau eu hetholwyr neu eu rhanddeiliaid, a chynnig atebion i fynd i’r afael â heriau dybryd.

Yn ddarostyngedig i reoliadau

Mae’n hanfodol cydnabod bod lobïo yn y DU yn ddarostyngedig i reoliadau a gofynion tryloywder sydd â’r nod o sicrhau atebolrwydd ac atal dylanwad gormodol ar y broses wleidyddol. Mae gan y DU gyfreithiau sy’n llywodraethu gweithgareddau lobïo, gan gynnwys gofynion cofrestru a datgelu ar gyfer lobïwyr, codau ymddygiad ar gyfer lobïwyr a swyddogion cyhoeddus, a chyfyngiadau ar lobïo gan grwpiau penodol, fel elusennau ac undebau llafur.

Llwyddiannau lobïo

Cynnydd yn yr isafswm cyflog: Mae lobïo gan undebau llafur, grwpiau hawliau gweithwyr, ac ymgyrchwyr ar lawr gwlad wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o eirioli dros gynnydd yn yr isafswm cyflog cenedlaethol yn y DU. Dros y blynyddoedd, mae ymdrechion lobïo wedi arwain at gynnydd graddol yn yr isafswm cyflog, gyda’r nod o wella safon byw gweithwyr ar incwm isel a lleihau anghydraddoldeb o ran incwm. Mae Llywodraethau olynol y DU wedi ymateb i’r ymdrechion lobïo hyn drwy weithredu cynnydd yn yr isafswm cyflog, gydag addasiadau’n cael eu gwneud o bryd i’w gilydd i adlewyrchu newidiadau mewn costau byw a chwyddiant.

Deddfwriaeth Cydraddoldeb Priodas (2013): Fe wnaeth lobïo gan sefydliadau hawliau pobl LHDTC+, grwpiau eirioli a gwleidyddion cefnogol chwarae rhan hollbwysig yn y broses o basio deddfwriaeth cydraddoldeb priodasau yn y DU. Dros nifer o flynyddoedd, bu ymgyrchwyr yn lobïo seneddwyr, yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyhoeddus, ac yn sicrhau cefnogaeth y cyhoedd i hawliau priodi cyfartal i gyplau o’r un rhyw. Yn 2013, pasiodd Senedd y Deyrnas Unedig y Ddeddf Priodasau (Cyplau o’r Un Rhyw), gan gyfreithloni priodasau o’r un rhyw yng Nghymru a Lloegr, yn dilyn ymdrechion lobïo llwyddiannus gan eiriolwyr hawliau pobl LHDTC+.

Sut i weithredu