Materion Byd-eang

Mae materion byd-eang yn golygu materion sy’n peri pryder i’r cyhoedd ledled y byd. Gallai’r rhain gynnwys materion cymdeithasol, materion amgylcheddol a materion economaidd. Mewn sawl ffordd, mae materion byd-eang yn cyd-fynd â’i gilydd, a gall dysgu mwy amdanyn nhw a sut i lunio’r dyfodol deimlo’n rymusol iawn.


Pwy sy’n gyfrifol


Beth maen nhw’n ei wneud?

Mae rhwymedigaethau rhyngwladol yn gyffredin mewn cytundebau rhwng gwladwriaethau neu sefydliadau rhyngwladol. Mae Cymru yn ymateb i ddyletswyddau ac ymrwymiadau’r DU ar faterion rhyngwladol. Ers datganoli, rhaid i weinidogion Cymru gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol.


Beth allwch chi ei wneud?

Mae’r amgylchedd byd-eang yn gymhleth, ac mae adrannau o’r llywodraeth yn ogystal â sefydliadau newyddion annibynnol ar gael i’ch helpu i lunio eich barn a chanfod beth yr hoffech chi gael gwybod mwy amdano.


Dolenni / Adnoddau

Beth yw'r broblem?


Angel Ezeadum

Aelod o’r Senedd Ieuenctid dros Race Council Cymru

Yr Aelod cyntaf o Senedd Ieuenctid Cymru dros Race Council Cymru. Mae Angel wedi gwneud cyfraniadau effeithiol yn galw ar i hanesion pobl ddu a phobl o liw fod yn rhan o gwricwlwm ysgolion Cymru.

Angel Ezeadum

Marcus Rashford

Pêl-droediwr ac ymgyrchydd

Yr effaith fwyaf a gafodd Marcus oedd dylanwadu ar Lywodraeth y DU i ymestyn prydau ysgol am ddim i blant. Fe wnaeth hefyd godi proffil y mater yn y cyfryngau ac ymysg y cyhoedd gan arwain at sgwrs genedlaethol am dlodi bwyd.

Marcus Rashford

Poppy Stowell-Evans

Llysgennad Hinsawdd Ieuenctid Cymru

Mae Poppy yn eiriolwr cryf dros gydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol. Mae hi’n ymgyrchydd angerddol dros y newid yn yr hinsawdd ac mae hi’n ystyried ei hun yn rhyngwladolwr, gan gredu y dylai gwledydd weithio gyda’i gilydd.

Poppy Stowell-Evans

Greta Thunberg

Person y flwyddyn, Cylchgrawn Time Hydref 2019

Mae protestiadau heddychlon Greta wedi ysbrydoli mudiad ieuenctid byd-eang, wedi perswadio gwleidyddion i ymgysylltu â materion newid yn yr hinsawdd, ac wedi gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd. Mae ei heffaith wedi cael ei galw’n ‘Effaith Greta.’

Greta Thunberg