Cyfiawnder Cymdeithasol

Mae bod yn ymwybodol o faterion cyfiawnder cymdeithasol fel dosbarthu cyfoeth, breintiau a chyfleoedd yn deg yn rhan allweddol o greu cymdeithas deg a thrugarog. Drwy ymgyrchu dros bolisïau economaidd teg a chefnogi rhaglenni lliniaru tlodi, gall pobl ifanc gyfrannu at greu cymdeithas decach.


Pwy sy’n gyfrifol


Beth maen nhw’n ei wneud?

Mae Llywodraeth y DU wedi ymgymryd â nifer o fentrau a pholisïau amrywiol sydd â’r nod o hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn cymdeithas. Fe wnaethon nhw weithredu deddfwriaeth a mesurau diogelu cydraddoldeb i atal gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal i bob dinesydd. Mae hyn yn cynnwys deddfau sy’n gwahardd gwahaniaethu ar sail nodweddion fel hil, rhyw, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, a chrefydd neu gred. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn darparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer mynd i’r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb mewn meysydd fel cyflogaeth, addysg, tai a mynediad at wasanaethau.


Beth allwch chi ei wneud?

Drwy gymryd camau i gefnogi cyfiawnder cymdeithasol, gallwch chi helpu i gyfrannu at greu byd mwy teg, cynhwysol a thosturiol i bob unigolyn a chymuned. Cymerwch amser i addysgu eich hun am faterion cyfiawnder cymdeithasol, gan gynnwys yr anghydraddoldebau systemig, gwahaniaethu, ac ymyleiddio y mae gwahanol grwpiau mewn cymdeithas yn eu hwynebu. Darllen llyfrau, erthyglau a phapurau ymchwil, gwylio rhaglenni dogfen, ac ymgysylltu â safbwyntiau amrywiol i wella eich dealltwriaeth o faterion cyfiawnder cymdeithasol a’u hachosion sylfaenol. Gwrando ar brofiadau a safbwyntiau pobl o gymunedau sydd ar y cyrion neu heb gynrychiolaeth ddigonol. Cymerwch amser i ddysgu o’u profiadau, eu heriau a’u pryderon. Gallwch chi ymarfer gwrando gweithredol ac empathi, a bod yn barod i gael sgyrsiau anodd am fraint, deinameg pŵer ac anghydraddoldeb. Cymerwch ran mewn ymdrechion eirioli a mudiadau ar lawr gwlad sy’n gweithio i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau systemig. Cefnogwch sefydliadau ac ymgyrchoedd sy’n canolbwyntio ar faterion fel cyfiawnder hiliol, cydraddoldeb rhwng y rhywiau, hawliau pobl LHDTC+, hawliau mewnfudwyr, a chyfiawnder economaidd. Mynychwch ralïau, gorymdeithiau a phrotestiadau, neu gymryd rhan mewn ymgyrchoedd ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth a galw am newid.


Dolenni / Adnoddau

Beth yw'r broblem?


Angel Ezeadum

Aelod o’r Senedd Ieuenctid dros Race Council Cymru

Yr Aelod cyntaf o Senedd Ieuenctid Cymru dros Race Council Cymru. Mae Angel wedi gwneud cyfraniadau effeithiol yn galw ar i hanesion pobl ddu a phobl o liw fod yn rhan o gwricwlwm ysgolion Cymru.

Angel Ezeadum

Marcus Rashford

Pêl-droediwr ac ymgyrchydd

Yr effaith fwyaf a gafodd Marcus oedd dylanwadu ar Lywodraeth y DU i ymestyn prydau ysgol am ddim i blant. Fe wnaeth hefyd godi proffil y mater yn y cyfryngau ac ymysg y cyhoedd gan arwain at sgwrs genedlaethol am dlodi bwyd.

Marcus Rashford

Poppy Stowell-Evans

Llysgennad Hinsawdd Ieuenctid Cymru

Mae Poppy yn eiriolwr cryf dros gydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol. Mae hi’n ymgyrchydd angerddol dros y newid yn yr hinsawdd ac mae hi’n ystyried ei hun yn rhyngwladolwr, gan gredu y dylai gwledydd weithio gyda’i gilydd.

Poppy Stowell-Evans

Greta Thunberg

Person y flwyddyn, Cylchgrawn Time Hydref 2019

Mae protestiadau heddychlon Greta wedi ysbrydoli mudiad ieuenctid byd-eang, wedi perswadio gwleidyddion i ymgysylltu â materion newid yn yr hinsawdd, ac wedi gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd. Mae ei heffaith wedi cael ei galw’n ‘Effaith Greta.’

Greta Thunberg