Cydraddoldeb Rhywiol

Mae ymgyrchu dros gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn grymuso pobl ifanc i greu byd teg a chyfartal. Drwy herio stereoteipiau ac eirioli dros gydraddoldeb rhwng y rhywiau, gallan nhw gyfrannu at gymdeithas lle mae pawb yn cael cyfle cyfartal.


Pwy sy’n gyfrifol


Beth maen nhw’n ei wneud?

Pasiodd Senedd y DU y Ddeddf Cydraddoldeb yn 2010 sy’n gwneud rhyw yn nodwedd warchodedig, ond hefyd yn gwahardd aflonyddu rhywiol a gwahaniaethu yn y gweithle. Mae Senedd Cymru wedi ymrwymo i gydraddoldeb rhywedd, ac mae’n eiriol dros rannu pŵer, adnoddau a dylanwad yn gyfartal i bob menyw, dyn a pherson anneuaidd. Mae Llywodraeth Cymru wedi creu’r Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru sy’n nodi ei blaenoriaethau ar gyfer y tymor byr a’r tymor canolig.


Beth allwch chi ei wneud?

Gallwch chi ddod yn gynghreiriad ar gyfer hawliau cyfartal. Dysgwch am yr anghydraddoldebau rhywedd sy’n effeithio ar ein cymdeithas a meddyliwch ddwywaith cyn rhannu cynnwys ar-lein sy’n atgyfnerthu materion fel trais ar sail rhywedd.


Dolenni / Adnoddau

Beth yw'r broblem?


Angel Ezeadum

Aelod o’r Senedd Ieuenctid dros Race Council Cymru

Yr Aelod cyntaf o Senedd Ieuenctid Cymru dros Race Council Cymru. Mae Angel wedi gwneud cyfraniadau effeithiol yn galw ar i hanesion pobl ddu a phobl o liw fod yn rhan o gwricwlwm ysgolion Cymru.

Angel Ezeadum