Cydraddoldeb Hiliol

Mae deall hil a hiliaeth ac ymgyrchu dros gydraddoldeb hiliol yn meithrin cymdeithas gyfiawn. Gall pobl ifanc frwydro yn erbyn anghydraddoldebau systemig a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal, gan ddysgu sut i herio gwahaniaethu a gweithio tuag at chwalu rhwystrau strwythurol sy’n effeithio ar fywydau pobl o liw.


Pwy sy’n gyfrifol


Beth maen nhw’n ei wneud?

Mae’r Senedd wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau strwythurol ac ethnig yng Nghymru. Nod y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yw gwneud newidiadau ystyrlon a mesuradwy i fywydau pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig drwy fynd i’r afael â hiliaeth a sicrhau Cymru sy’n wrth-hiliol erbyn 2030.


Beth allwch chi ei wneud?

Gallwch chi hyrwyddo cydraddoldeb hiliol yn eich cymuned drwy fod yn wrth-hiliol, a bod yn eiriolwr dros amrywiaeth. Mae hyrwyddo cynhwysiant hiliol a chymryd safiad cadarn yn erbyn hiliaeth yn allweddol i sbarduno newid a sicrhau cydraddoldeb hiliol yng Nghymru, a’r tu hwnt.


Dolenni / Adnoddau

Beth yw'r broblem?


Marcus Rashford

Pêl-droediwr ac ymgyrchydd

Yr effaith fwyaf a gafodd Marcus oedd dylanwadu ar Lywodraeth y DU i ymestyn prydau ysgol am ddim i blant. Fe wnaeth hefyd godi proffil y mater yn y cyfryngau ac ymysg y cyhoedd gan arwain at sgwrs genedlaethol am dlodi bwyd.

Marcus Rashford